Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cyllid

 

Ymchwiliad i Cyllido Addysg Uwch

Tystiolaeth gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru

 

 

Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Gyllido Addysg Uwch yng Nghymru.

 

 

Gwybodaeth am y Brifysgol Agored yng Nghymru

 

1.         Sefydlwyd y Brifysgol Agored yn 1969, a chofrestrodd y myfyrwyr cyntaf yn 1971. Mae'n arweinydd byd-eang o ran cynnig cyfleoedd dysgu o bell hyblyg ac arloesol ar lefel addysg uwch.  Mae'n agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Mae'n hyrwyddo cyfleoedd addysgol a chyfiawnder cymdeithasol drwy gynnig addysg brifysgol o safon uchel i bawb sy'n dymuno cyflawni eu huchelgais a gwireddu eu potensial.

 

2.         Mae dros 8,000 o fyfyrwyr ledled Cymru yn astudio gyda'r Brifysgol Agored ar hyn o bryd, wedi'u cofrestru ar dros 11,000 o fodiwlau. Mae myfyrwyr y Brifysgol Agored ymhob un o etholaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a ni yw prif ddarparwr addysg uwch ran amser y wlad. Mae mwy na thri o bob pedwar o fyfyrwyr y Brifysgol Agored yn gweithio tra y byddant yn astudio a chyda pholisi derbyn agored, nid oes angen unrhyw gymwysterau i astudio ar lefel gradd. Mae dros draean o'n myfyrwyr israddedig yng Nghymru yn ymuno â ni heb gymwysterau lefel mynediad prifysgol safonol.

 

3.         Yn 2013, am y nawfed flwyddyn yn olynol, daeth y Brifysgol Agored yn gyntaf yng Nghymru o ran 'boddhad myfyrwyr cyffredinol' yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol. Fel arweinydd byd-eang ym maes technoleg addysg, mae ein portffolio 'cynnwys agored' eang yn cynnwys unedau astudio am ddim ar OpenLearn (gan gynnwys llawer o ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â Chymru) a chynnwys sylweddol ar YouTube ac ar iTunesU lle mae ein heitemau wedi cael eu lawrlwytho dros 60 miliwn o weithiau.

 

Cylch gwaith yr ymchwiliad

 

4.         Mae Cylch Gorchwyl ymchwiliad y Pwyllgor yn datgan gan nad yw'r polisi cyllido addysg uwch ran amser newydd yn dod i rym tan 2014 mai ffocws yr ymchwiliad fydd addysg uwch lawn amser. Er bod newidiadau yn cael eu gwneud i'r system gyllido ran amser yn 2014 (sef cyflwyno benthyciadau i fyfyrwyr rhan amser sy'n bodloni rhai meini prawf penodol), nid ydym o'r farn bod y newidiadau hyn yn drefniant terfynol na sefydlog o ran cyllido addysg uwch ran amser yng Nghymru yn y dyfodol. Mae datblygiadau pellach wrthi'n cael eu rhoi ar waith, megis diddymu cyllid strategaeth sefydliadol CCAUC, a fydd yn effeithio ar allu sefydliadau i ddarparu addysg uwch ran amser mewn meysydd blaenoriaeth megis ehangu mynediad a gweithio gyda chyflogwyr (lle mae darpariaeth ran amser yn chwarae rhan bwysig). Nid ydym o'r farn ei bod yn bosibl nac yn ddymunol cynnal trafodaeth am gyllido addysg uwch yn y dyfodol oni chynhwysir y ddarpariaeth ran amser. Byddai cyfle yn cael ei golli i ystyried dyfodol addysg uwch yn ei chyd-destun ehangach bosibl ac ni fydd yn bosibl ystyried sut y gallai unrhyw newidiadau yn y dyfodol effeithio ar ddarparwyr a myfyrwyr rhan amser. Mae pwynt sylfaenol yma sy'n deillio o'r realiti sy'n gysylltiedig ag arian cyhoeddus cyfyngedig: Fel pob maes buddsoddi cyhoeddus, bydd gan addysg uwch gyllideb gyfyngedig a bydd unrhyw newidiadau a wneir i'r trefniadau ar gyfer cyllido addysg uwch lawn amser yng Nghymru yn y dyfodol - os cânt eu gwneud ar wahân - yn effeithio ar faint o arian fydd yn weddill i gefnogi addysg uwch ran amser. Byddem yn annog y pwyllgor i fanteisio ar y cyfle i ystyried addysg ran amser ac addysg lawn amser fel rhan o'r ymchwiliad hwn er mwyn llunio argymhellion a all gael effaith gytbwys ar draws dulliau astudio yn hytrach na gadael i addysg ran amser gael ei hystyried fel elfen ar wahân neu ôl-ystyriaeth. Os nad yw hyn yn bosibl, byddem yn gofyn i'r Pwyllgor fod yn ystyriol o'r effeithiau posibl ar y ddarpariaeth ran amser a myfyrwyr rhan amser a'r canlyniadau anfwriadol iddynt yn dilyn unrhyw argymhellion a wneir o ran newidiadau a buddsoddiad mewn perthynas â'r ddarpariaeth lawn amser.

 

5.         Rydym wedi ymateb isod i gwestiynau'r ymchwiliad sy'n berthnasol i'n sefydliad ac i ddyfodol addysg uwch ran amser. Gobeithio y bydd yr ymatebion hyn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r ymchwiliad ac y cânt eu hystyried gan y Pwyllgor.

 

6.         Byddai'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn awyddus iawn i ymhelaethu ar y pwyntiau a godwyd yn y cyflwyniad hwn mewn sesiwn tystiolaeth lafar gyda'r pwyllgor lle y gobeithiwn y gellid ystyried y cysylltiad rhwng addysg uwch lawn amser a rhan amser, a'r trefniadau ar gyfer cyllido'r ddwy elfen, ymhellach.

 

Ymateb i gwestiynau'r ymchwiliad

 

Incwm ffioedd dysgu a chymorth

 

Pa effaith ariannol y mae'r polisi ffioedd dysgu newydd, a gyflwynwyd yn y flwyddyn academaidd 2012/13, wedi'i chael, sef polisi sy'n caniatáu i Sefydliadau Addysg Uwch godi hyd at £9,000 y flwyddyn ar fyfyrwyr am gyrsiau addysg uwch? Pa effaith ariannol y mae'r polisi hwn yn debygol o'i chael yn y dyfodol?

 

7.         O ganlyniad i'r polisi ffioedd dysgu sy'n caniatáu i sefydliadau godi hyd at £9,000 y flwyddyn, trosglwyddwyd adnoddau net o astudiaethau rhan amser i astudiaethau llawn amser, wedi'i hwyluso'n rhannol gan y penderfyniad i ddiddymu cyllid strategaeth CCAUC. Roedd yr arian hwn yn cefnogi gwaith wedi'i dargedu ym maes ehangu mynediad a datblygu sgiliau drwy gysylltiadau â chyflogwyr. O ran sefydliadau sy'n darparu darpariaeth lawn amser, mae'r cynnydd mewn incwm ffioedd o ganlyniad i'r lefelau ffioedd a'r grantiau ffioedd uwch yn gwneud iawn am y ffaith eu bod wedi colli eu cyllid strategaeth. Fodd bynnag, diddymwyd y cyllid hwn hefyd ar gyfer darpariaeth ran amser lle nad oes ffioedd uwch neu grantiau ffioedd tebyg yn bodoli i ddarparu'r incwm. Bydd y penderfyniadau polisi hyn bron yn sicr yn arwain at ostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhan amser, fel y gwelwyd eisoes yn Lloegr[1].

 

A yw'r polisi ffioedd dysgu newydd yn creu mwy o ansicrwydd ariannol ynteu llai o ansicrwydd ariannol i Sefydliadau Addysg Uwch?

 

8.         Mae'r polisi ffioedd dysgu yn creu mwy o ansicrwydd gan ei fod wedi'i lywio gan y farchnad, er bod y system grantiau ffioedd ar gyfer myfyrwyr llawn amser yn lliniaru systemau'r farchnad i ryw raddau ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru. O ran y ddarpariaeth ran amser, disgwylir i sefydliadau wneud iawn am y gostyngiad o ran cyllid uniongyrchol gan CCAUC drwy eu polisi ffioedd dysgu ond bydd unrhyw gamau i gyflwyno ffioedd uwch heb y grant ffioedd i'w lliniaru yn arwain at ostyngiad mewn galw. Felly mae sefydliadau mewn sefyllfa amhosibl a, dros nos, mae darpariaeth ran amser wedi dod yn llai proffidiol i sefydliadau. Mae hyn yn cael effaith andwyol iawn ar sefydliadau fel y Brifysgol Agored, gan nad oes ganddynt y ddarpariaeth lawn amser amgen. Rydym yn croesawu'r mesurau arbennig a roddwyd ar waith i ni hyd yn hyn er mwyn caniatáu i ni barhau i ddarparu cyfleoedd rhan amser i fyfyrwyr yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw'r trefniant hwn wedi'i gadarnhau ar gyfer yr hirdymor ac felly mae'n golygu bod ein gallu i ddarparu'r gwaith penodol ar ehangu mynediad a gweithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur yn fwy ansicr. Dyna pam ein bod o'r farn bod angen ystyried y materion hyn hefyd ochr yn ochr â'r dyfodol ar gyfer cyllido addysg uwch lawn amser.

 

Beth fu goblygiadau ariannol grant ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru a beth fydd ei oblygiadau tebygol yn y dyfodol?

 

9.         Gan nad yw myfyrwyr rhan amser yn gymwys i gael grant ffioedd dysgu, un o'r effeithiau yw bod cymorth cyhoeddus bellach yn cael ei roi i addysg uwch lawn amser ond nad oes swm cymesur yn cael ei roi i addysg uwch ran amser. Mae problemau sylweddol yn deillio o hyn mewn perthynas â thegwch i fyfyrwyr oherwydd ni chyflwynwyd unrhyw achos dros drin myfyrwyr rhan amser yn y dull llai ffafriol hwn. Mae unrhyw benderfyniad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth grant i fyfyrwyr llawn amser yn lleihau'r gronfa o arian sydd ar gael i gefnogi'r ddarpariaeth ran amser. Felly mae angen ystyried y ddau ddull astudio gyda'i gilydd wrth wneud penderfyniadau polisi.

 

A yw'r gyfundrefn ariannu bresennol yn rhoi cymorth ariannol effeithiol i fyfyrwyr o'r aelwydydd isaf eu hincwm ac ai dyma'r ffordd fwyaf costeffeithiol o roi cymorth ariannol i'r cohort hwn o fyfyrwyr?

 

10.       Nid ydym o'r farn mai'r gyfundrefn bresennol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o helpu myfyrwyr o'r aelwydydd isaf eu hincwm i ddilyn llwybr addysg uwch, yn enwedig addysg uwch ran amser. Mae llawer o fyfyrwyr sy'n astudio gyda'r Brifysgol Agored yn dod o aelwydydd incwm isel, ac nid ydynt yn cael symiau cyfatebol o gymorth cyhoeddus o gymharu â'r symiau a gaiff myfyrwyr sy'n astudio'n llawn amser. Dylid nodi hefyd bod y grant ffioedd llawn amser ar gael i bawb ac y caiff ei gynnig i'r rheini o gartrefi cefnog. Ond ni chaiff myfyriwr incwm isel sy'n astudio'n rhan amser, y mae'n debygol y bydd eisoes wedi talu trethi (ac efallai y bydd yn parhau i wneud hynny tra'n astudio) sy'n cyfrannu at y grant ffioedd llawn amser, yr un math o gymorth. Bydd colli'r cyllid strategaeth a chyllid ehangu mynediad yn cael effaith ar fyfyrwyr o'r aelwydydd isaf eu hincwm a dylai penderfyniadau ynghylch cymorth i fyfyrwyr rhan amser yn y dyfodol ystyried sut i helpu'r rhai isaf eu hincwm i fanteisio ar ddarpariaeth addysg uwch hyblyg. Gall y gofynion ar gyfer isafswm dwysedd astudio er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth hefyd fod yn ddatgymhelliad i rai darpar fyfyrwyr.

 

Beth yw'r goblygiadau ariannol i Gymru yn sgil rhoi cymhorthdal i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn Sefydliadau Addysg Uwch y tu allan i Gymru?

 

11.       Ym maes dysgu ac addysgu, dylai'r system addysg uwch yng Nghymru fod yn seiliedig ar helpu myfyrwyr a sefydliadau i ffynnu ni waeth beth yw dewis ddull astudio myfyriwr. Dyma y dylid ei ddefnyddio fel man cychwyn yn hytrach na daearyddiaeth. O fewn y cyd-destun hwn, byddai'r Brifysgol Agored yn awyddus i weld y rhan fwyaf o'r cymorth yn cael ei dargedu at y rheini â'r anghenion mwyaf.

.

Casgliad

 

12.       Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi croesawu cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru o ran darpariaeth ran amser hyd yn hyn, gan gynnwys y penderfyniad i gyflwyno benthyciadau i rai myfyrwyr rhan amser[2] tra'n rhoi cyfarwyddwyd i sefydliadau gadw ffioedd ar y lefelau presennol[3]. Fodd bynnag, ymddengys mai trefniant dros dro yw'r trefniant hwn o hyd heb unrhyw sicrwydd am y dyfodol tymor hwy o ran darpariaeth ran amser. Felly mae'n bwysicach byth y caiff addysg uwch ran amser ei hystyried fel rhan o drafodaethau polisi - lle caiff dyfodol addysg uwch ei ystyried, rhaid gwneud hynny mewn ffordd gynhwysfawr. Mae'n hanfodol dysgu gwersi o Loegr lle y gwnaed penderfyniadau polisi ar gyfer addysg uwch lawn amser a'u cymhwyso wedyn i addysg ran amser; mae hyn wedi arwain at ostyngiad gofidus yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio'n rhan amser[4].

 

13.       Mae llawer o fyfyrwyr sy'n dewis astudio'n rhan amser yn gwneud hynny oherwydd bod eu hamgylchiadau yn golygu mai dyma'r opsiwn gorau , neu'r unig opsiwn, sydd ar gael iddynt. Mae fwy neu lai yn ddieithriad yn ddewis cadarnhaol. Gallant fod yn bobl â chyfrifoldebau gofalu neu'r rheini sydd eisoes yn gweithio ac sy'n awyddus i wella eu sgiliau neu ailhyfforddi. Bydd sicrhau bod addysg uwch ran amser ar gael i'r unigolion hyn yn golygu y gallwn ddiwallu anghenion economi Cymru, cefnogi symudedd cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol a chyfrannu at greu Cymru fwy ffyniannus. Er mwyn gwneud hyn, rhaid sicrhau bod penderfyniadau ynghylch sut i helpu myfyrwyr rhan amser yn greiddiol i unrhyw benderfyniadau a wneir o ran cyllido addysg uwch yn y dyfodol yn hytrach nag ôl-ystyriaeth.

 

14.       Byddem yn croesawu'r cyfle i drafod y materion hyn yn fanylach gyda'r pwyllgor.

 

 

Medi 2013

Cyswllt: Michelle Matheron    Ffôn: 029 2026 2708   E-bost: Michelle.Matheron@open.ac.uk

 



[1] HEFCE, “Higher Education in England: Impact of the 2012 reforms” (2012), ar gael yn http://www.hefce.ac.uk/about/intro/abouthighereducationinengland/impact/

[2] Llywodraeth Cymru, Hysbysiad Gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru (03/2013), “Cymorth i Fyfyrwyr Rhan Amser: Ffioedd (Cymru) ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2014/15

[3] Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Llythyr Cylch Gwaith  Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 2013/14

[4] HEFCE, “Higher Education in England: Impact of the 2012 reforms” (2012), ar gael yn http://www.hefce.ac.uk/about/intro/abouthighereducationinengland/impact/